Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 26 Hydref 2017
Amser:
09.32 -
12.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4377
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Bethan Jenkins AC (Cadeirydd) Hannah Blythyn AC Dawn Bowden AC Suzy Davies AC Siân Gwenllian AC Neil Hamilton AC Jeremy Miles AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, Comisiynydd y Gymraeg Gwenith Price, Comisiynydd y Gymraeg Dyfan Sion, Director of Policy and Research, Comisiynydd y Gymraeg Guto Dafydd, Comisiynydd y Gymraeg |
Staff y Pwyllgor: |
Steve George (Clerc) Adam Vaughan (Ail Glerc) Lowri Harries (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.2 Croesawyd Sian Gwenllian i'r Pwyllgor gan Bethan Jenkins, y Cadeirydd, a diolchwyd i Dai Lloyd am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor.
Gweld trawsgrifiad o drafodion y cyfarfod (PDF 637KB) Gweld fel HTML (378KB).
2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
2.2 Gofynnodd Sian Gwenllian am bapur gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch ei safbwynt am y cynnydd o ran cael dau gorff; un i ganolbwyntio ar reoleiddio a'r llall i ganolbwyntio ar faterion strategol.
2.3 Pwysleisiodd Meri Huws yr angen i graffu ar ddefnydd y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar ac mewn prentisiaethau. Cyfeiriodd Dyfan Sion at friff a gâi ei gyhoeddi, y gellid ei rannu â'r Pwyllgor yn cynnwys y wybodaeth hon.
2.4 Gofynnodd Lee Waters am gadarnhad ynghylch nifer y cwynion unigol a gafwyd. Dywedodd Meri Huws y byddai'n rhoi'r wybodaeth hon i'r Pwyllgor.
3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
4.1 Nododd yr aelodau y papurau.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Trafododd yr Aelodau'r papur a phenderfynwyd y dylid ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch dyraniad y gyllideb arfaethedig newydd i Newyddiaduraeth Newyddion.